Trwydded bersonol

Ffordd Penglais | Penglais Road

Aberystwyth SY23 3BU

01970 621200

chc.cymru@cbhc.gov.uk | www.cbhc.gov.uk

nmr.wales@rcahmw.gov.uk | www.rcahmw.gov.uk



Fe’ch anogir i ddefnyddio ac ailddefnyddio’r Wybodaeth sydd ar gael o dan y drwydded hon yn rhydd a hyblyg, gydag ychydig o amodau.

Defnyddio gwybodaeth o dan y drwydded hon

Bydd defnyddio deunydd sydd o dan hawl hawlfraint a hawl cronfa ddata sydd ar gael yn benodol o dan y drwydded hon (y ‘Wybodaeth’) yn arwydd eich bod yn derbyn y telerau ac amodau isod.

Mae’r Trwyddedwr yn rhoi trwydded fyd-eang, heb freindal, hyd byth, ddigyfyngiad i chi i ddefnyddio’r Wybodaeth at ddibenion Anfasnachol yn unig yn ddarostyngedig i’r amodau isod.

Nid yw’r drwydded hon yn effeithio ar eich rhyddid o dan ddelio teg na defnydd teg nac unrhyw eithriadau a chyfyngiadau hawliau hawlfraint neu gronfa ddata eraill.

Mae genych rhyddid i:

gopïo, dosbarthu a throsglwyddo’r Wybodaeth; addasu’r Wybodaeth; ecsbloetio’r Wybodaeth at ddibenion Anfasnachol, er enghraifft, drwy ei chyfuno â gwybodaeth arall yn eich cynnyrch neu’ch cymhwysiad eich hun.

Ni chaniateir i chi:

arfer unrhyw rai o’r hawliau a roddir i chi o dan y drwydded hon mewn unrhyw fodd sydd wedi’i fwriadu’n bennaf ar gyfer neu wedi ei gyfeirio tuag at fantais fasnachol neu iawndal ariannol.

Mae'n rhaid i chi, pan fyddwch yn gwneud unrhyw un o'r uchod:

gydnabod ffynhonnell y Wybodaeth drwy gynnwys unrhyw ddatganiad priodoli a nodwyd gan Ddarparwr(wyr) y Wybodaeth a darparu cyswllt i’r drwydded hon os oes modd.

Bydd geiriad y gydnabyddiaeth fel a ganlyn:

Y Goron biau’r hawlfraint i’r ddelwedd hon ac fe’i hatgynhyrchir gyda chaniatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), o dan awdurdod dirprwyedig gan Geidwad y Cofnodion Cyhoeddus.

Mae’r ffurf fer © Hawlfraint y Goron: CBHC neu © Crown copyright: RCAHMW yn dderbyniol hefyd, ar yr amod yr eglurir y talfyriad yn llawn mewn man arall yn y testun.

Os nad yw’r Darparwr Gwybodaeth yn darparu datganiad priodoli penodol, bydd yn rhaid i chi ddefnyddio’r canlynol:

Yn cynnwys gwybodaeth a drwyddedwyd o dan Drwydded Llywodraeth Anfasnachol v2.0.

Os ydych chi’n defnyddio Gwybodaeth sawl Darparwr Gwybodaeth ac os nad yw rhestru nifer o briodoliadau yn ymarferol yn eich cynnyrch neu gymhwysiad, cewch gynnwys URI neu hypergyswllt i adnodd sy’n cynnwys y datganiadau priodoli angenrheidiol.

Os bydd y Wybodaeth yn cael ei thrwyddedu ymlaen – er enghraifft pan gaiff ei chyfuno â gwybodaeth arall – sicrhewch fod hyn at ddibenion Anfasnachol yn unig.

Mae’r rhain yn amodau pwysig o dan y drwydded hon ac os na fyddwch yn cydymffurfio â nhw neu os defnyddiwch y Wybodaeth at ddibenion nad ydynt yn rhai Anfasnachol, bydd yr hawliau a roddir i chi o dan y drwydded, neu unrhyw drwydded gyffelyb a roddwyd gan y Trwyddedwr, yn dod i ben yn awtomatig.

Eithriadau

Nid yw’r drwydded hon yn cynnwys defnydd o:

  • ddata personol yn y Wybodaeth;
  • Gwybodaeth sydd heb gael ei chyrchu drwy iddi gael ei chyhoeddi neu ei datgelu o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth (gan gynnwys Deddfau Rhyddid Gwybodaeth y Deyrnas Unedig a’r Alban) gan neu gyda chaniatâd y Darparwr Gwybodaeth;
  • logos adrannol neu logos sefydliadau sector cyhoeddus, arfbeisiau, arwyddluniau milwrol a’r Arfbais Frenhinol ac eithrio pan fyddant yn rhan annatod o ddogfen neu set ddata;
  • hawliau trydydd parti nad oes gan y Darparwr Gwybodaeth hawl i’w trwyddedu;
  • hawliau eiddo deallusol eraill, gan gynnwys patentau, nodau masnach, a hawliau dyluniad; a
  • dogfennau adnabod fel y Pasbort Prydeinig.

Dim cymeradwyaeth

Nid yw’r drwydded hon yn rhoi unrhyw hawl i chi ddefnyddio’r Wybodaeth mewn modd sy’n awgrymu unrhyw statws swyddogol neu fod y Darparwr a/neu’r Trwyddedwr yn eich cymeradwyo chi neu eich defnydd o’r Wybodaeth.

Dim Gwarant

Mae’r Wybodaeth yn cael ei thrwyddedu ‘fel y mae’ ac mae’r Darparwr Gwybodaeth yn cau allan unrhyw ddatganiad, gwarant, rhwymedigaeth nac atebolrwydd mewn perthynas â’r Wybodaeth i’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith.

Nid yw’r Darparwr Gwybodaeth yn atebol am unrhyw wallau neu ddiffygion yn y Wybodaeth ac ni fydd yn atebol am unrhyw golled, anaf na niwed o unrhyw fath a achosir trwy ei defnyddio. Nid yw’r Darparwr Gwybodaeth yn gwarantu y bydd y Wybodaeth yn parhau i gael ei chyflenwi.

Cyfraith Lwydraethol

Mae’r drwydded hon yn cael ei rheoli gan gyfreithiau’r awdurdodaeth lle mae prif fan busnes y Darparwr Gwybodaeth, oni nodir yn wahanol gan y Darparwr Gwybodaeth.

Diffiniadau

Yn y drwydded hon, mae gan y termau isod yr ystyron canlynol:

Mae ‘Gwybodaeth’

yn golygu gwybodaeth a ddiogelir gan hawliau hawlfraint neu gronfa ddata (er enghraifft, gweithiau llenyddol a chelfyddydol, cynnwys, data, a chod ffynhonnell) a gynigir i’w defnyddio o dan delerau’r drwydded hon.

Mae ‘Darparwr Gwybodaeth’

yn golygu’r unigolyn neu sefydliad sy’n darparu’r Wybodaeth o dan y drwydded hon.

Mae ‘Trwyddedwr’

yn golygu unrhyw Ddarparwr Gwybodaeth sydd â’r awdurdod i gynnig Gwybodaeth o dan amodau’r drwydded hon neu Geidwad y Cofnodion Cyhoeddus, sydd â’r awdurdod i gynnig Gwybodaeth sy’n ddarostyngedig i hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata’r Goron a Gwybodaeth sy’n ddarostyngedig i hawl hawlfraint a hawl cronfa ddata sydd wedi’i haseinio i’r Goron neu wedi’i chael gan y Goron, o dan delerau’r drwydded hon.

Mae ‘Dibenion Anfasnachol’

yn golygu heb ei fwriadu ar gyfer na’i gyfeirio tuag at fantais fasnachol neu iawndal ariannol. At ddibenion y drwydded hon, nid yw ‘iawndal ariannol’ yn cynnwys cyfnewid y Wybodaeth am weithiau eraill sydd o dan hawlfraint drwy rannu ffeiliau digidol neu fel arall, ar yr amod na chaiff unrhyw iawndal ariannol ei dalu mewn cysylltiad â chyfnewid y Wybodaeth.

Mae ‘Defnyddio’

yn golygu cyflawni unrhyw weithred a gyfyngir gan hawl hawlfraint neu hawl cronfa ddata, boed yn y cyfrwng gwreiddiol neu mewn unrhyw gyfrwng arall, ac yn cynnwys heb gyfyngiad ddosbarthu, copïo, addasu, neu gyfaddasu fel y gall fod yn dechnegol angenrheidiol i ddefnyddio’r Wybodaeth mewn modd neu fformat gwahanol.

Mae ‘Chi’ ac 'Eich'

yn golygu’r unigolyn naturiol neu gyfreithiol, neu gorff o unigolion trwy gorfforaeth neu ymgorfforaeth, sy’n cael hawliau o dan y drwydded hon.

Ynghylch y Drwydded Llywodraeth Anfasnachol

T

Datblygodd Yr Archifau Gwladol y drwydded hon fel offeryn i alluogi Darparwyr Gwybodaeth yn y sector cyhoeddus i drwyddedu defnyddio ac ailddefnyddio eu Gwybodaeth o dan drwydded anfasnachol gyffredin. Mae’r Archifau Gwladol yn gwahodd cyrff sector cyhoeddus sydd â’u hawl hawlfraint a’u hawl cronfa ddata eu hunain i ganiatáu defnyddio eu Gwybodaeth o dan y drwydded hon lle nad yw trwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored ddiofyn yn briodol.

Mae gan Geidwad y Cofnodion Cyhoeddus awdurdod i drwyddedu Gwybodaeth sy’n ddarostyngedig i hawl hawlfraint a hawl cronfa ddata sy’n eiddo i’r Goron.

Hon yw fersiwn 2.0 o’r Drwydded Llywodraeth Anfasnachol. Gall Yr Archifau Gwladol, o dro i dro, gyhoeddi fersiynau newydd o’r Drwydded Llywodraeth Anfasnachol. Os ydych chi eisoes yn defnyddio Gwybodaeth o dan fersiwn blaenorol o’r Drwydded Llywodraeth Anfasnachol, bydd telerau’r drwydded honno’n dal mewn grym.

Gellir gweld mwy o gyd-destun, arfer gorau ac arweiniad yn adran Fframwaith Trwyddedu Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar wefan Yr Archifau Gwladol.

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg | Correspondence welcomed in Welsh and English