Telerau ac amodau

Telerau ac Amodau ar gyfer Defnyddio Gwybodaeth o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru

1. Defnyddio Gwybodaeth o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC)
CHCC yw archif Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC).

Mae cael y Cytundeb hwn a defnyddio deunydd CHCC yn golygu derbyn y telerau a’r amodau hyn a chytuno i gydymffurfio â hwy.

Caiff yr holl wybodaeth a ddarperir o CHCC ei chyflenwi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn unol â thelerau ac amodau’r Cytundeb hwn i’r unigolyn, y sefydliad neu’r cwmni (“Chi”), at ddibenion mewnol neu ymchwil breifat, fel y pennwyd gennych Chi yn eich ymholiad gwreiddiol. Fe’i cyflenwir yn unol â safonau gwasanaethu a thelerau talu CHCC (mae’r taflenni gwybodaeth a’r rhestri prisiau ar gael drwy wneud cais amdanynt, neu ewch i’n gwefan www.cbhc.gov.uk ).

Mae’r deunydd a ddelir o fewn CHCC yn gymysgedd o hawlfraint y Goron a hawlfreintiau trydydd parti. Gall y deunydd sydd â hawlfraint y Goron gael ei ddefnyddio ar gyfer astudio preifat neu at bwrpas anfasnachol o dan y Drwydded Llywodraeth Anfasnachol. Dylid ei gydnabod fel a ganlyn: ‘Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: rhif catalog’. Mae’n bosibl y bydd angen cael caniatâd deiliad yr hawlfraint ar gyfer deunydd trydydd parti.

Ni chewch gopïo, cyhoeddi na threfnu fel arall i wybodaeth a gyflenwyd o CHCC o dan y Cytundeb hwn fod ar gael heb ganiatâd ysgrifenedig CHCC, p’un a yw’r wybodaeth a gyflenwyd yn ddeunydd hawlfraint neu beidio.

Ni cheir newid na manipwleiddio deunydd heb gael cydsyniad ysgrifenedig CHCC ymlaen llaw.

Ni chaiff deunydd, drwy fasnach neu fel arall, gael ei roi ar fenthyg, ei werthu, ei ailwerthu, ei logi allan na’i gylchredeg fel arall i drydydd parti heb gael caniatâd ysgrifenedig CHCC ymlaen llaw.

Rhaid i’r wybodaeth beidio â chael ei defnyddio at ddibenion a all arwain at ddifrodi safleoedd archaeolegol, adeiladau hanesyddol a thirweddau.

2. Atgynhyrchu a Thaliadau

CBHC, y Goron neu drwyddedwyr eraill yw perchnogion pob hawl, gan gynnwys hawlfraint a hawliau cronfa-ddata yn y wybodaeth. Os dymunwch Chi ei hatgynhyrchu neu atgynhyrchu unrhyw ran ohoni, neu ei chyhoeddi neu gyhoeddi unrhyw ran ohoni neu drefnu fel arall iddi neu unrhyw ran ohoni fod ar gael neu ei hecsbloetio’n fasnachol neu ecsbloetio unrhyw ran ohoni’n fasnachol, rhaid i Chi wneud cais am ganiatâd i Lyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau CHCC yn y cyfeiriad isod cyn i Chi ei hatgynhyrchu neu ei chyhoeddi o gwbl. Gall fod ffioedd atgynhyrchu i’w talu beth bynnag fo statws hawlfraint y wybodaeth y gofynnwyd amdani. Os yw’n gymwys, gallwn eich cyfeirio Chi at ddeiliad yr hawlfraint berthnasol os nad ydym wedi’n hawdurdodi i roi gwybodaeth ar ran deiliad yr hawlfraint.

3. Aseinio
Nid oes modd aseinio, trosglwyddo nac is-drwyddedu’ch hawliau o dan y Cytundeb hwn heb i chi gael caniatâd ysgrifenedig CHCC ymlaen llaw.

4. Torri
Cymerir bod methiant gennych Chi i gydymffurfio â thelerau’r Cytundeb hwn yn gyfystyr â’u torri, a bydd yn arwain at derfynu’r Cytundeb ar unwaith. Os yw’n briodol, gall CHCC fynnu iawndal gennych Chi a/neu fynnu’ch bod yn dychwelyd unrhyw Wybodaeth sydd wedi’i chyflenwi o dan y Cytundeb hwn.

5. Ymwadiad
Nid yw CBHC yn rhoi unrhyw warant mewn cysylltiad â’r wybodaeth a roir i Chi yn unol â’r Cytundeb hwn, gan gynnwys mewn perthynas â’i chyflawnrwydd a/neu ei manwl-gywirdeb. Ni ellir dal CBHC yn gyfrifol am unrhyw benderfyniad a wneir gan ddibynnu ar y wybodaeth.

6. Awdurdodaeth
Daw’r Cytundeb hwn o dan gyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd yn ddarostyngedig i awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.